Skip to content
Menu
Menu

Dathlu 35 Mlynedd

filler

Yn nhref fach hardd Pontarddulais, ger yr afon a roddodd ei henw i’r lle, lleolir y siop harddaf yn y byd, Yno i’ch croesawu drwy’r drws deniadol, rhwng ffenestri arddangos gyda’r tlysaf a welsoch erioed, mae’r ddwy chwaer, Llinos Davies ac Eiriol Rees; eu mam, Marian Williams, sylfaenodd y busnes, siop dillad priodas o’r enw Pleser, yn 1989. Eleni mae’r busnes yn dathlu 35 mlynedd o fodolaeth – pe baen nhw’n bâr priod, byddai’n Briodas Gwrel arnynt!

Mae’r croeso a gewch chi yn ail i ddim, boed hynny yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac mae’r chwiorydd yn ymfalchïo yn eu gwasanaeth dwyieithog i briodasferched a’u teuluoedd, sy’n teithio o bob cwr i dderbyn y gwasanaeth personol a’r ffrogiau a’r ategolion moethus ac unigryw a geir yma. Mae’r gyfres ystafelloedd bychain, fel gemau ar hyd mwclis, yn gyforiog o ffrogiau priodas, dillad ar gyfer achlysuron, hetiau, esgidiau, gemwaith, heb sôn am rywfaint o ddillad hyfryd ar gyfer eu gwisgo o ddydd i ddydd, gan enwau mawr fel Fely Campo, Jesus Peiro, Rosa Clara, Ellis, Teresa Ripoll, Hundred Stars a mwy.

Pleser Celebrates 35 Years

Yn wir, os ewch chi i siopa yno yn ystod misoedd mwy hafaidd y flwyddyn, efallai y cewch chi gyfle i ymweld â gardd y siop – nawr, does dim llawer o fanwerthwyr all honni fod ganddyn nhw ardd!

Mae profiad y chwiorydd, eu gofal eithriadol am y manylion, a dawn gynhenid i wybod beth fydd yn addas i bob cleient, yn rhyfeddol, a does ryfedd fod eu llyfr ymwelwyr yn llawn dop o negeseuon diolchgar yn mynegi mor berffaith oedd dillad priodas nifer dirifedi o briodasferched a’u gosgordd, o dde Cymru ac o ardaloedd pellach i ffwrdd.

Dyma ddywedodd un cwsmer bodlon: “… roedd eich caredigrwydd a’ch dealltwriaeth mor hyfryd… roedd yn golygu cymaint. Mae hwn wedi bod yn brofiad mor arbennig – wnawn ni byth mo’i anghofio. Diolch o waelod calon!” – oddi wrth fam emosiynol.

Oherwydd cyfoeth y dewis sydd ar gael yno, mae rhywbeth yn Pleser ar gyfer pob lliw a llun – o ran priodasferch a phriodas! Os ydych chi’n dewis cael gwasanaeth bach tawel gyda ffrindiau agos, neu os ydych chi’n bwriadu llogi Cadeirlan Tyddewi, fe gewch chi’r un ymroddiad a chefnogaeth i greu diwrnod mwyaf cofiadwy eich bywyd gan y tîm caredig a chroesawgar yn Pleser.

Mae llawer o resymau dros garu Pontarddulais – y Côr Meibion byd-enwog, y dewis gwych o gaffis a llecynnau coffi, y lleoliad atyniadol ond cyfleus rhwng Abertawe a Llanelli – ond mae pob priodasferch sy’n dwlu cynllunio’r briodas berffaith yn caru Pontarddulais am reswm arall, a’r rheswm hwnnw yw Pleser, y siop harddaf yn y byd.

Related Posts