From rail to trail. Experience the wonder of Wales on foot with Transport for Wales
Visit Wales has announced 2023 as the Year of Trails. From well-trodden paths to the brand new, there’s a trail for everyone. Long or short; mountain, forest, or coast, for those walking or wheeling. You can explore UNESCO World Heritage Sites, historic castles, local cuisine, and culture across Wales.
There’s no need to fire up the sat-nav or pile your family into the car either, reach your trail of choice by train for a more sustainable and relaxing option on your next day out. Transport for Wales trains can take you within a short walk of hundreds of paths including the Wales Coast Path. Home to some of Wales’ most beautiful views, the path is 870 miles long, spans the entire Welsh coastline, and is considered the first dedicated coast path in the world to do so.
When you travel with Transport for Wales, you’re never far from adventure. The coast path at Llandudno is just under a mile from the nearest train station, Tenby station is only a ten-minute walk away and Cardiff Bay station is just 230 metres from the waterfront.
Or, if you want to see more of the Welsh countryside, why not take Glyndŵr’s Way trail? The path is 135 miles and will take you through one of the least inhabited parts of Britain. Explore moorland, lakes, and forests to reach the highest point of the trail, Foel Fadian and its spectacular coastal views. Running from Knighton to Welshpool through Machynlleth, the path is served by the Cambrian train line making it easy to hop on and off whenever it suits you with trains running regularly to Birmingham, Shrewsbury and Aberystwyth.
2023 is your chance to be a trail taker. Arrive by train, explore on foot. Plan your next adventure today at https://tfw.wales/trails.
O’r cledrau i’r llwybrau. Profwch ryfeddodau Cymru ar droed gyda Trafnidiaeth Cymru
Mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi mai 2023 yw Blwyddyn y Llwybrau. O lwybrau cerdded sydd wedi’u hen droedio i rai newydd sbon, mae llwybr i bawb. Hir neu fyr; mynydd, coedwig neu arfordir, i’r rheini sydd ar droed neu’r rhai sydd ar olwynion. Gallwch grwydro drwy Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, cestyll hanesyddol a phrofi bwydydd a diwylliant lleol ledled Cymru.
Does dim angen i chi danio’r llyw lloeren na gwasgu’r teulu i mewn i’r car chwaith, ewch i’r llwybr o’ch dewis ar y trên fel dewis mwy cynaliadwy a hamddenol ar eich diwrnod allan nesaf. Trenau Trafnidiaeth Cymru fynd â chi o fewn taith gerdded fer i gannoedd o lwybrau gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru. Yn gartref i rai o olygfeydd prydferthaf Cymru, mae’r llwybr yn 870 milltir, ac yn ymestyn ar hyd arfordir Cymru i gyd, a dyma’r llwybr arfordirol pwrpasol cyntaf yn y byd i wneud hynny.
Pan fyddwch chi’n teithio gyda Trafnidiaeth Cymru, dyw’r antur byth yn bell i ffwrdd. Mae llwybr yr arfordir yn Llandudno lai na milltir i ffwrdd o’r orsaf drenau agosaf; dim ond deg munud i ffwrdd ar droed yw gorsaf Dinbych-y-pysgod ac mae glan y dŵr o fewn 230 metr i orsaf Bae Caerdydd.
Neu, os hoffech chi weld mwy o gefn gwlad Cymru, beth am droedio Llwybr Glyndŵr? Mae’n llwybr 135 milltir o hyd a bydd yn eich arwain drwy un o ardaloedd lleiaf poblog Prydain. Crwydrwch i rostiroedd, llynnoedd, a choedwigoedd i gyrraedd pwynt uchaf y llwybr, Foel Fadian sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd o’r arfordir. Mae rheilffordd y Cambrian yn gwasanaethu’r llwybr o Drefyclo i’r Trallwng drwy Fachynlleth, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi gamu ar ac oddi ar y trên fel y mynnwch chi gyda threnau rheolaidd o’r Amwythig, Birmingham ac Aberystwyth.
2023 yw eich cyfle chi i droedio’r llwybrau. Cyrraedd ar drên, crwydro ar droed. Cynlluniwch eich antur nesaf heddiw yn https://trc.cymru/llwybrau.