Skip to content
Menu
Menu

Trafnidiaeth Cymru

filler

English Version »

 

Dewch yn nes at Lwybr Arfordir Cymru gyda Trafnidiaeth Cymru

Mae’n haws nag erioed cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru. Gadewch y car gartref a mwynhewch olygfeydd godidog wrth i chi fynd i rai o rannau harddaf Cymru ar y trên.

Yn gartref i rai o olygfeydd prydferthaf Cymru, mae’r llwybr yn 870 milltir, ac yn ymestyn ar hyd arfordir Cymru i gyd, a dyma’r llwybr arfordirol pwrpasol cyntaf yn y byd i wneud hynny.

Nid yw archwilio llwybr yr arfordir yn golygu gorfod llenwi’r car â thanwydd. Gellir cyrraedd llawer o’r llwybr ar y trên, gan gynnig dewis mwy cynaliadwy ac ymlaciol ar gyfer eich antur nesaf. Does dim angen aros nes byddwch chi wedi cyrraedd pen eich taith i ddechrau mwynhau’r golygfeydd anhygoel sydd gan arfordir Cymru i’w cynnig – mae pawb yn gwybod bod teithiau trên yng Nghymru ymysg y rhai hyfrytaf yn y byd.

Dyma rai rhannau o’r llwybr sydd hawsaf i’w cyrraedd ar y trên:

Llandudno

Dim ond 0.9 milltir o’r orsaf drenau ac fe fyddwch chi wedi cyrraedd tref glan môr fwyaf Cymru. Mae gan Landudno olygfeydd godidog, pierau llawn hwyl a thaith gerdded arfordirol 6 milltir ar hyd llwybrau creigiog gogledd Cymru. Gallwch deithio i Landudno ar y trên, naill ai ar wasanaethau uniongyrchol i mewn i’r dref, neu drwy newid yng Nghyffordd Llandudno.

Llandudno from the Great Orme
(Source (CC BY-SA 2.0))

Gyda’i glan môr Fictoraidd, ei gwestai lliwgar a’i phensaernïaeth glan y môr hyfryd, Llandudno yw un o’r llefydd gorau i ymweld ag ef yng ngogledd Cymru. Ewch draw i’r Gogarth i fwynhau tirwedd arfordirol anhygoel 200m uwchben lefel y môr. Yma fe welwch olygfeydd godidog, ac os ydych chi’n lwcus, bydd geifr Cymreig hapus yno hefyd.

Dinbych-y-pysgod

Mae gan Trafnidiaeth Cymru nifer o drenau sy’n eich galluogi i gyrraedd Llwybr Arfordir Penfro yn rhwydd. Dinbych-y-pysgod yw un o’r llwybrau mwyaf poblogaidd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac mae’n ffefryn ymysg pobl sy’n frwd dros gerdded a dechreuwyr fel ei gilydd. Ac yn well byth, dim ond 0.4 milltir o orsaf drenau Dinbych-y-pysgod yw arfordir Dinbych-y-pysgod.

Gydag uchafbwyntiau fel traeth y Castell, Ynys y Santes Catrin a Chastell Dinbych-y-pysgod, mae’r rhan hon o’r llwybr yn ddiwrnod allan gwych, gyda golygfeydd a safleoedd hanesyddol ysblennydd.

O lan y môr yn Ninbych-y-pysgod, gallwch fynd i’r de i ddarganfod olion castell Dinbych-y-pysgod, crwydro traeth y de ac yna symud tuag at Benalun i weld y clogwyni uchel enwog.

Bae Caerdydd

Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ym mhrifddinas Cymru, dim ond taith gerdded fer o orsaf drenau Bae Caerdydd. Mae adran Caerdydd o Lwybr Arfordir Cymru yn ymestyn dros 15km. Gallwch fwynhau tipyn o dawelwch yn lle canol dinasoedd prysur drwy ddechrau ym Mae Caerdydd a mwynhau safleoedd fel yr Eglwys Norwyaidd a’r Pierhead, sy’n adeilad rhestredig Gradd Un hanesyddol o’r 19eg ganrif. Cerddwch o Fae Caerdydd ar hyd y morglawdd diarffordd i Gasnewydd, gan fwynhau golygfeydd godidog o Fôr Hafren a rhai o’r mannau harddaf sydd gan y ddwy ddinas i’w cynnig, heb sŵn torfeydd nac adeiladau mawr i guddio’r golygfeydd.

Dim ond taith trên sydd ei hangen i archwilio’r awyr agored.

Cynlluniwch eich antur nesaf yn: trc.cymru/llwybrau

Related Posts